Comisiwn y Cynulliad
Assembly Commission

 

NAFWC 2011
Cofnodion cyfarfod 14 Mawrth 2011

Dyddiad: 14 Mawrth 2011
Amser:      17:00
Lleoliad:    Ystafell gynadledda 4B

Cofnodion cyfarfod 14 Mawrth 2011

Yn bresennol:
Y Llywydd, Cadeirydd
William Graham AC (y Ceidwadwyr)
Lorraine Barrett AC (Llafur)
Peter Black AC (Democratiaid Rhyddfrydol)
Chris Franks AC (Plaid Cymru)

Swyddogion yn bresennol:
Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc
Dianne Bevan, Prif Swyddog Gweithredu
Keith Bush, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol
Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad
Craig Stephenson, Pennaeth Cymorth i’r Comisiwn ac i’r Aelodau
Helen Finlayson, yr Ysgrifenyddiaeth
Helen Birtwhistle, Cyfathrebu Allanol – eitem 2
Natalie Drury-Styles, Rheolwr Gwasanaethau Allgymorth a Chysylltiadau Rhyngwladol – eitem 2

Cynghorwyr Annibynnol:
Mair Barnes

Arsylwyr:
Neb.

Eraill:
Neb.


1. Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd ymddiheuriadau.

Datgan buddiannau
Nid oedd buddiannau i’w datgan.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol – 27 Ionawr 2011
Cytunwyd yn ffurfiol ar y cofnodion.

Materion yn codi o gyfarfod 27 Ionawr 2011
Nid oedd materion yn codi o’r cyfarfod.

2. Agoriad y Pedwerydd Cynulliad
Cyflwynodd Helen Birtwhistle y papur, a oedd yn amlinellu’r cynigion ar gyfer cynnal dathliad aml-ddiwylliant, cynhwysol a fyddai’n cynrychioli’r gymdeithas gyfan yng Nghymru.

Bu’r Comisiwn yn trafod y cynigion, ond methodd â chytuno ar fanylion y trefniadau, ac felly ni allodd eu cymeradwyo.

3. Adolygu cyraeddiadau’r Trydydd Cynulliad: adroddiad etifeddiaeth Comisiwn y Cynulliad
Cyflwynodd Claire Clancy y papur, gan nodi bod yr adroddiad etifeddiaeth drafft yn cofnodi cyraeddiadau Comisiwn y Cynulliad yn ystod y Trydydd Cynulliad ac yn cynnig argymhellion i geisio cynorthwyo’r Comisiwn newydd yn y Pedwerydd Cynulliad.

Cytunodd y Comisiwn ei fod yn fodlon â strwythur a ffocws yr adroddiad, ac y dylai’r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 9 Mai 2011.

4. Fframwaith ar gyfer adroddiad blynyddol a chyfrifon 2010-11 Comisiwn y Cynulliad
Cyflwynwyd y papur gan Claire Clancy. Amlinellodd y fframwaith arfaethedig ar gyfer yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon, a nododd ei fod yn debyg i’r fframwaith a ddefnyddiwyd yn y blynyddoedd diwethaf.

Cytunodd y Comisiwn ar yr amlinelliad a’r amserlen arfaethedig ar gyfer adroddiad blynyddol a chyfrifon 2010-11.

5. Adroddiad a Phenderfyniad y Bwrdd Taliadau
Cyflwynwyd y papur gan Adrian Crompton, gan nodi bod Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010, a sefydlodd y Bwrdd Taliadau, yn gosod dyletswydd ar y Comisiwn i osod Penderfyniad y Bwrdd, ac unrhyw adroddiad sy’n cyd-fynd ag ef, gerbron y Cynulliad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Mynegodd y Comisiwn ei ddiolch i’r Bwrdd Taliadau am ei Benderfyniad a’i adroddiad cyntaf, ac i’r ysgrifenyddiaeth a fu’n cynorthwyo gwaith y Bwrdd.

Nododd William Graham AC, fel cadeirydd Ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn yr Aelodau, fod yr Ymddiriedolwyr yn awyddus i weithio gyda’r Bwrdd ar ei adolygiad o drefniadau pensiwn yr Aelodau, a’u bod yn croesawu’r ffaith bod Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth eglur yn cael ei ddatblygu rhwng y Bwrdd, yr Ymddiriedolwyr a’r Comisiwn.

Cytunodd y Comisiwn y dylai’r Penderfyniad a’r adroddiad sy’n cyd-fynd ag ef gael eu gosod gerbron y Cynulliad ar 15 Mawrth, a’u cyhoeddi ar ei wefan ar yr un diwrnod

6. Adroddiad y Bwrdd Rheoli i’r Comisiwn
Cafodd y papur, a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Cynulliad drwyddo draw, ei nodi gan y Comisiwn.

Ystyriodd y Comisiwn y broses ar gyfer ymgynghori ar Fesur arfaethedig ynghylch gwasanaethau dwyieithog a’i gynllun Gwasanaethau Dwyieithog newydd, a chytunodd y dylid gohirio’r ymgynghoriad cyhoeddus tan ddechrau’r Pedwerydd Cynulliad.

Bu’r Comisiwn yn trafod mater caniatáu mynediad yn ystod y diddymiad i rannau o Ystâd y Cynulliad nad ydynt yn fannau cyhoeddus ar gyfer staff cymorth yr Aelodau sy’n sefyll fel ymgeiswyr yn etholiad y Cynulliad. Roedd y Comisiwn yn cefnogi’r egwyddor y dylid trin pob ymgeisydd yn gyfartal, a chytunodd felly na ddylid caniatáu mynediad yn ystod y diddymiad i fannau nad ydynt yn fannau cyhoeddus i staff cymorth sy’n sefyll fel ymgeiswyr.

Bu’r Comisiwn yn trafod cais gan artist o Gymru i gael ei gomisiynu i dynnu darlun o’r Pedwerydd Cynulliad yn cwrdd, a chytunodd na fyddai modd iddo gytuno i’r cais.

Nododd y Comisiwn fod y Prif Gynghorydd Cyfreithiol yn adolygu’r canllawiau ar gyfer cynnal digwyddiadau a noddir gan Aelodau ar ystâd y Cynulliad. Byddai’r canllawiau diwygiedig yn egluro cyfrifoldebau’r Aelodau mewn perthynas â digwyddiadau roeddent yn eu noddi, ac yn llymhau’r amodau ar gyfer cynnal digwyddiadau. Byddai’n rhoi cyfle i ystyried y dull gorau o ymateb i bryderon a nodwyd yn ddiweddar am sefydliad a ddefnyddiodd adnoddau’r Cynulliad er yr honnwyd bod rhai o aelodau’r sefydliad hwnnw’n gysylltiedig â difrod a wnaed i swyddfa etholaethol Aelod Cynulliad.

7. Materion i’w nodi
Cyflwynodd y Comisiwn ei ddiolchiadau i’w gynghorwyr annibynnol, Mair Barnes, Richard Calvert, Tim Knighton a’r Athro Robert Pickard, am eu cymorth a’u herio adeiladol yn ystod y Trydydd Cynulliad.